Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am fwy o bwerau cyllido i Lywodraeth Cymru yn ei haraith i aelodau’r blaid yn Birmingham heddiw.

Wrth annerch cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd Kirsty Williams bod angen system newydd o ariannu ar Gymru, gan ddweud bod y system bresennol – sydd yn dibynnu ar dderbyn arian y trethdalwr trwy law San Steffan – yn magu diogi yn Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad dros Brycheiniog a Sir Faesyfed, mae angen system tebyg i fath Calman, yn yr Alban, er mwyn datganoli rhai pwerau casglu cyllid Cymru.

“Mae’r diffyg gallu i godi arian yn magu anghyfrifoldeb ynglŷn â’r ffordd y mae’r arian yna’n cael ei wario,” meddai Kirsty Williams, mewn araith oedd hefyd yn feirniadol iawn o’r ffordd y mae Llafur yng Nghymru wedi “methu” gyda’r gwasanaeth iechyd, er i’r gwasanaeth yng Nghymru dderbyn canran uwch o gyllid nag yn Lloegr.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnogi’r alwad yn gyson i gael mwy o rym cyllido. Nid yn unig y bydd hyn yn rhoi mwy o atebolrwydd a chyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ond byddai llywodraeth sydd eisiau datblygu yn gallu defnyddio’r grymoedd i yrru datblygiadau economaidd yng Nghymru, gan greu swyddi a ffyniant i bobol Cymru.”

Dywedodd hefyd fod arweinydd y blaid  Brydeinig, Nick Clegg, a Danny Alexander, prif swyddog y Trysorlys, yn gwbwl gefnogol i’r galwadau.

‘Sgandal’

Wrth drafod ei gweledigaeth ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ddoe, dywedodd Kirsty Williams fod gan y blaid flaenoriaethau clir ar gyfer y gyllideb eleni – gydag addysg ar ben y rhestr.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, roedd y sefyllfa bresennol yn “sgandal llwyr,” gyda phlant yng Nghymru yn derbyn £600 y pen yn llai na phlant ysgol yn Lloegr.

“Wrth i’r bwlch canlyniadau rhwng ysgolion yng Nghymru a’r rheiny yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon dal i dyfu, mae Llafur yn dal i wario £600 y flwyddyn yn llai ar addysg bob un plentyn yng Nghymru o’u cymharu â phlant yn Lloegr.”

Dywedodd hefyd na fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn fodlon cyfaddawdu ar eu gofynion dros y gyllideb addysg.

“Ni fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cefnogi unrhyw gyllideb os nad yw’n cymryd camau i gau’r bwlch ariannu gyda Lloegr – gan ddechrau gyda’r plant tlotaf sydd angen yr help ychwanegol mwyaf.

“Ni fyddwn ni chwaith yn pleidleisio am gyllideb sy’n esgeuluso’r angen i daclo diweithdra a’r angen i roi hwb i’r economi drwy ysgogi cyflogwyr i gymryd pobol dan hyfforddiant.”

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol  yng Nghymru, mae’r blaenoriaethau yma wedi bod yn alwadau cyson gan y blaid.

“Dyna oedd ein blaenoriaethau yn ystod yr etholiad, a dyna fydd ein blaenoriaethau yn ystod y gyllideb nesaf,” meddai.

“Ni chafodd fy nghyd-aelodau cynulliad eu hethol i’r Cynulliad er mwyn troi eu cefnau ar yr angen difrifol i wella ariannu addysg yng Nghymru, yr angen i ail-lansio’r economi yng Nghymru, ac i ddarparu hyfforddiant a gobaith i’r rheiny heb waith.”