Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar ystad ddiwydiannol yn ardal Castell-nedd.

Cawson nhw eu galw i Ystad Ddiwydiannol Abaty Nedd ger Sgiwen toc cyn 6 o’r gloch nos Sadwrn (Medi 29).

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.