Does dim ffordd i Gymru wireddu ei photensial heb ennill annibyniaeth yn y pen draw, yn ôl arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price.

Daeth cadarnhad ddydd Gwener fod Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi curo’r arweinydd Leanne Wood ac Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth yn y ras i arwain y blaid.

Ac mae Adam Price wedi achub ar y cyfle ar unwaith i osod ei weledigaeth ar gyfer Cymru annibynnol o dan ei arweiniad.

Dywedodd wrth raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fod y ras arweinyddol wedi ysgogi ac ysbrydoli pobol Cymru i feddwl am ddyfodol y wlad, a bod angen troi hynny’n llwyddiant i’r blaid drwy ennill etholiad cyffredinol yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

Heb wireddu hynny, meddai, “fydd hi ddim yn bosib i ni wireddu’r weledigaeth a’r freuddwyd yn y pen draw o gael Cymru annibynnol.”

Ychwanegodd, “Dw i’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fyddwn ni nid yn unig yn cael refferendwm annibyniaeth yng Nghymru, ond yn ei hennill hi.”

Plaid Cymru – llywodraeth nesaf Cymru?

Cyn bod modd ennill annibyniaeth, fe fydd angen i Blaid Cymru neilltuo’r tair blynedd nesaf cyn yr etholiadau nesaf er mwyn gosod y seiliau i geisio disodli’r Llywodraeth Lafur sydd wedi bod mewn grym ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999.

Ond yn ôl Adam Price, fe fydd yr “adfywiad yn y syniad o genedligrwydd Cymreig” yn helpu Plaid Cymru yn eu gwaith oherwydd “y llanast Brexitaidd” sydd yn bod yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd, wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Gyda’r ddwy brif blaid Brydeinig wedi’u hollti heb ryw lawer o syniad ynglŷn â ble ’dyn ni’n mynd nesa’, a Chymru’n cael ei hanwybyddu’n llwyr, dw i’n credu bod Cymreictod yn yr ystyr gwleidyddol yn mynd trwy adfywiad.”

Ychwanegodd fod Brexit yn gyfle i danlinelli mai Plaid Cymru yw’r “unig blaid sydd gyda ni yng Nghymru sydd ddim yn gangen leol, ranbarthol yn eu termau nhw, o blaid Brydeinig”, a’r ddwy brif blaid Brydeinig, y Ceidwadwyr a Llafur, wedi achosi “dinistr y’n ni wedi gweld dros y cenedlaethau”.

“Mi fydd yr etholiad nesa’n ddewis rhwng aros yn yr unfan, gwneud yr un hen beth, aros gyda Llafur, neu gael am y tro cyntaf, ein llywodraeth ni, llywodraeth pobol Cymru, Llywodraeth Plaid Cymru fydd yn creu cwys newydd i’n gwlad ni.

“Mae pobol yn ymateb yn dda i angerdd, i weledigaeth, i’r syniad nad yw’r Cymry y’n ni wedi’n magu i ni sydd wedi gweld dirywiad ym mhob ffrynt dros y cenedlaethol yn anochel.”

“Rhaid i ni fod yn onest â phobol Cymru”

Dywedodd Adam Price fod ceisio ennill annibyniaeth yn fater o “fod yn onest â phobol Cymru”, gan mai dyna “gyfrifoldeb gwleidyddion democrataidd”.

Dywedodd nad oes “ateb cynaladwy i’n problemau ni fel gwlad”, ac nad oes “ffordd i ni wireddu’n potensial heb annibyniaeth yn y pen draw”.

Ond yn y cyfamser, wrth aros am y cyfle i wthio am annibyniaeth, dywed Adam Price fod y system ddatganoli sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn galluogi “cael llywodraeth sydd yn ddychmyglawn ac uchelgeisiol” fel yr SNP yn yr Alban.

“Ond yn y pen draw, gallen ni osod y seiliau a chyfeiriad newydd i Gymru. Ond os y’n ni wir eisiau gwireddu potensial fel gwlad, yr unig ateb yn y pen draw ydi annibyniaeth. Rhaid i ni fod yn glir gyda’r neges yna i bobol Cymru.”

Dywedodd fod “shifft” yn digwydd yng Nghymru tuag at annibyniaeth, a bod “hyder yn dechrau codi a phobol yn gweld y llanast yn Llundain ar hyn o bryd, ac yn gofyn iddyn nhw eu hunain, ‘Oni allwn ni wneud gwell job ein hunain a rhedeg ein gwlad ein hunain fel bron pob gwlad arall yn y byd?’

“Un genhedlaeth fydd yn rhyddhau Cymru. Un genhedlaeth fydd yn creu Cymru annibynnol, a dwi’n credu mai’r genhedlaeth yma fydd hi. Ond gwaith i genhedlaeth gyfan, i Gymru gyfan, nid un person, fydd hynny. Ond am gyfle, am wobr, am fraint.”

Dim rhwyg o fewn Plaid Cymru

Fe fydd undod Plaid Cymru hefyd yn bwysig os yw’r blaid am geisio gwireddu’r freuddwyd o sicrhau annibyniaeth dros y blynyddoedd i ddod.

Ac mae Adam Price yn mynnu nad oes rhwyg rhyngddo fe, Leanne Wood a Rhun ap Iorwerth a’u cefnogwyr yn sgil canlyniad y ras am yr arweinyddiaeth.

“Nid dyna’r argraff dwi’n ei gael. Dw i’n credu bod aelodau’r blaid wedi cael eu bywiogi a’u hysbrydoli gan y misoedd diwethaf yma.

“Mae wastad yn siom i golli etholiad, hyd yn oed etholiad mewnol. Mae’n rhaid dangos cydymdeimlad â’r teimlad hynny, ond ar ddiwedd y dydd, ry’n ni i gyd yn y blaid yma am yr un rheswm. Dyn ni i gyd eisiau gweld Cymru rydd.

“Mae’n siwr gen i nawr fod yr etholiad mewnol wedi dod i ben y byddwn ni i gyd yn canolbwyntio ar yr etholiad sydd yn wir bwysig i ddyfodol Cymru, sef yr etholiad cyffredinol Cymreig ymhen tair blynedd. Mae ’na wobr fawr i’w hennill yn fynna.

“Dyna mae ein cefnogwyr ni’n mynd i ganolbwyntio arno fe ydi’r ffenest sydd yn agor i ni nawr, y cyfle unigryw ac euraid fydd gyda ni ymhen tair blynedd i’r Blaid Genedlaethol Gymreig ennill etholiad am y tro cyntaf, a ffurfio llywodraeth genedlaethol fydd yn dechrau ar y gwaith o drawsnewid Cymru, o ail-adeiladu hyder ein pobol i greu dyfodol gwell.”