Mae disgwyl mwy na 35,000 o bobol ym Mhorthcawl y penwythnos hwn ar gyfer yr ŵyl flynyddol sy’n talu teyrnged i frenin y byd cerddoriaeth, Elvis Presley.

Mae dynwaredwyr o bob cwr o’r byd yn heidio i’r dref ar lan y môr bob blwyddyn er cof am y canwr a fu farw yn 1977.

Fel rhan o’r digwyddiad, fe fydd mwy na 1,000 o sioeau’n cael eu cynnal dros y ddau ddiwrnod, a’r penllanw fydd cystadleuaeth yr ‘Elvis gorau’.

Cafodd y digwyddiad blynyddol ei gynnal am y tro cyntaf yn 2004, ac mae wedi tyfu’n sylweddol.

Yn perfformio eleni mae Côr Meibion Gleemen Maesteg a Cherddorfa Philharmonic Caerdydd.