Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 82 oed gael ei ladd mewn gwrthdrawiad ym maes parcio’r archfarchnad Asda.

Fe ddigwyddodd brynhawn dydd Gwener (28 Medi) am 2.10yp yn Llwynypia ger Tonypandy, pan darodd Mercedes C270 lliw aur a Mazda 3 lliw coch yn erbyn ei gilydd.

Cafodd y gyrrwr oedrannus driniaeth yn y fan a’r lle, ond fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth, gan ddweud y dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.