Wrth longyfarch Adam Price wedi iddo gael ei ethol yn Arweinydd newydd Plaid Cymru, mae Paul Davies yn dehongli bod aelodau’r Blaid wedi rhoi “arwydd clir” bod angen “cefnu ar Lafur”.

Mae Arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad eisoes wedi dweud y byddai yn ystyried ffurfio clymblaid yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2021, ac mae awgrym o hynny eto heddiw wrth iddo ymateb i’r newyddion fod gan y Blaid arweinydd newydd.

“Rydw i’n llongyfarch Adam Price am gael ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru, ac yn edrych ymlaen at gydweithio gydag o yn y Cynulliad ar faterion sy’n gyffredin rhyngom,” meddai Paul Davies.

“Gobeithio bod Adam yn sylweddoli bod aelodau’r Blaid yn awr wedi galw am gyfeiriad gwahanol. Dyma arwydd clir i gefnu ar Lafur Cymru a rhoi terfyn ar ei rheolaeth.

“Rydw i wedi bod yn gyson yn galw am beidio â diystyru unrhyw ddewis pan ddaw at sicrhau bod y Ceidwadwyr Cymreig mewn llywodraeth, oherwydd fy mlaenoriaeth yw cynnig dewis gwahanol a chredadwy i Lywodraeth Lafur sydd yn methu.”