Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn “ariannu gwasanaethau lleol yn iawn”, yn ôl Prif Weithredwr CLlLC (Cymdeithas  Llywodraeth Leol Cymru).

Daw rhybudd Steve Thomas wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi eu cyllideb drafft yr wythnos nesa’ – ar ddydd Mawrth (Medi 28) bydd y cyhoeddiad.

Ar ôl holi 22 awdurdod lleol Cymru ynglŷn â’u rhagolygon ariannol, mae CLlLC wedi dod i’r casgliad “nad oes gan gynghorau unman i droi bellach o ran dewisiadau”.

“Wyth mlynedd o lymder” ariannol gan Lywodraeth San Steffan sydd ar fai, meddai’r corff, ond bellach mae CLlLC yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn “ysgafnhau’r baich”.

Cyngor

“Mae dros £1.4bn o fuddsoddiad ar ei ffordd i lawr yr M4 yn dilyn y cyhoeddiad o wariant ychwanegol o £20bn ar y [Gwasanaeth Iechyd Gwladol] yn Lloegr,” meddai Steve Thomas.

“Llywodraeth Cymru yn unig fydd yn gyfrifol am sut y bydd y cyllid yma’n cael ei wario.

“… Mae angen seibiant ar drethdalwyr Cymru, a’r ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru wneud hynny yw bod yn driw i’w gair ar wasanaethau ataliol ac i ariannu gwasanaethau lleol yn iawn.”