Bydd gwasanaethau dau ysbyty yn y gorllewin yn cael eu hisraddio fel rhan o gynllun i ailstrwythuro.

Dan y cynlluniau bydd gwasanaethau unedau brys yn dod i ben yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Ac i lenwi’r bwlch, bydd ysbyty newydd ag uned frys yn cael ei godi mewn lleoliad rhwng y ddau ysbyty – rhywle rhwng Arberth a San Clêr.  

Daw’r penderfyniadau  gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn sgil pryderon bod gormod o straen arnyn nhw i gynnal gwasanaethau.

Y cynlluniau

  • Bydd Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn colli statws ‘ysbyty cyffredinol’ a’n cael eu “addasu at ddibenion gwahanol”
  • Bydd gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ac Ysbyty Tywysog Philip,  Llanelli, ddim yn cael eu heffeithio rhyw lawer
  • Bydd ysbyty newydd yn cael ei godi a fydd yn darparu “gwasanaethau gofal brys a gofal argyfyngol arbenigol a gofal wedi’i gynllunio”
  • Bydd y bwrdd yn ystyried gosod parafeddygon parhaol mewn ardaloedd anghysbell

“Hynod bwysig”

“Mae heddiw’n ddiwrnod hynod bwysig wrth i ni gadarnhau y byddwn yn cymryd cyfeiriad newydd i ddarparu gofal iechyd llawer mwy ataliol a chymunedol i’n poblogaeth,” meddai Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Steve Moore.

“Rydym o’r farn bod yr hyn a gyflwynwyd ger ein bron heddiw yn cynnig y cyfle gorau i ni ddelio â’r bregusrwydd y mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei wynebu, ac i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i’r boblogaeth sy’n diwallu eu hanghenion.”

“Testun gofid”

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig yn pryderu am ddiffyg manylion gan y Bwrdd gan gynnwys cost y cynlluniau, a phryd byddan nhw’n cael eu gweithredu.

“Mae’n destun gofid i mi ein bod yn sôn am newid gwasanaethau pan, yn amlwg, does dim cynllun ar waith,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns.

“A fydd yr israddio yn digwydd cyn i’r ysbyty newydd gael ei adeiladu. Ac am ba mor hir fydd yr ansicrwydd yma yn para?”