Mae cwmni Sain wedi cadarnhau y bydd swyddi’n cael eu colli yn eu canolfan yn Llandwrog ddiwedd y flwyddyn eleni.

Mewn datganiad, mae’r cwmni a sefydlwyd yn y 1960au i gyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg, wedi penderfynu “ail-strwythuro”. Mae hynny’n golygu “gwneud newidiadau a thoriadau” er mwyn sicrhau parhad y cwmni i’r dyfodol.

“Mae’r lleihad mawr yng ngwerthiant cryno-ddisgiau a’r cynnydd parhaol mewn ffrydio cerddoriaeth, y wasgfa economaidd barhaus, a’r lleihad anferth mewn breindaliadau, wedi’n gorfodi i leihau costau’r cwmni, ac yn anffodus bydd rhai swyddi’n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn,” meddai Sain yn y datganiad.

“Mae Sain yn gorfod sefyll ar ei draed ei hun heb gymorth grantiau o unrhyw fath, ond drwy’r ail-strwythuro yma, rydan ni’n ffyddiog y gall y cwmni oroesi, ac y bydd modd gwarchod ein archif cyfoethog o dros 60 mlynedd o recordiau Cymraeg a Chymreig gyda chymorth partneriaid o’r sector gyhoeddus.

“Nid yw hyn yn effeithio ar y cyhoeddiadau,” meddai’r datganiad wedyn, “a bydd breindaliadau yn cael eu prosesu fel arfer. Bydd cynnyrch newydd hefyd yn cael ei ryddhau yn yr wythnosau nesaf.”