Mae cerddor adnabyddus yn pryderu bod gan HSBC “bolisi o beidio cydnabod y Gymraeg fel iaith”.

Un o gwsmeriaid y banc hwnnw yw Geraint Lövgreen, ac yn y gorffennol mae wedi medru gohebu â nhw yn y trwy ei famiaith.

Mae modd derbyn llyfrau siec a llythyrau Cymraeg wrthyn nhw, meddai, ac mae’n falch bod ganddyn nhw gangen o hyd yng Nghaernarfon, ei gartref, meddai.

Ond, mae’r cerddor yn ffafrio’u gwasanaeth bancio ar-lein, ac yn teimlo rhwystredigaeth am fod y gwasanaeth hwnnw yn uniaith Saesneg.

Yn dilyn ymgais i gyfathrebu â’r banc trwy’r Gymraeg, mae Geraint Lövgreen wedi galw am ymddiheuriad gan HSBC ac wedi cysylltu â Chomisiynydd yr Iaith.

Neges ebost anfonais i at HSBC:Annwyl Syr/Fadam,Cysylltais â'r banc drwy'r gwasanaeth bancio ar-lein yn ddiweddar i…

Posted by Geraint Løvgreen on Wednesday, 26 September 2018

Cyfathrebu?

Yn ddiweddar, mi gysylltodd Geraint Lövgreen â’r banc trwy ei ap bancio ar-lein er mwyn dweud ei fod wedi newid ei gyfeiriad cartref.

Derbyniodd e-bost yn ôl gan y cwmni, ar yr ap, yn dweud, “Rydych wedi anfon eich neges mewn iaith dramor. Er mwyn i ni brosesu eich cais, anfonwch aton ni etp yn Saesneg os gwelwch yn dda.”

Ymatebodd y cerddor trwy ddweud ei fod yn “warthus bod y Gymraeg yn cael ei galw’n ‘foreign language’ gennych yma yng Nghymru”.

Yn ôl Geraint Lövgreen, mi anfonodd e-bost at y cwmni wedyn, ac mi dderbyniodd ymateb arall gan HSBC yn dweud “yn union yr un peth”.

“Problem ehangach”

“Dw i’n teimlo bod yna broblem ehangach,” meddai wrth golwg360. “Mae o wedi digwydd ddwywaith gan ddau berson gwahanol. Mae’n edrych fel bod ganddyn nhw bolisi o beidio cydnabod y Gymraeg fel iaith.

“Dim un aelod staff sydd wedi gwneud hyn trwy gamgymeriad. Dyma eu hateb stoc nhw i unrhyw un sydd yn cysylltu efo nhw yn Gymraeg.”

Dydi Geraint Lövgreen heb glywed yn ôl wrth HSBC na Chomisiynydd y Gymraeg. Mae golwg360 wedi cysylltu â HSBC am ymateb.