Mae ITV Cymru wedi cael eu beirniadu am gynnal cyfweliad â’r newyddiadurwraig ddadleuol, Katie Hopkins.

Mae’r ffigwr wedi ennyn tipyn o feirniadaeth am eu hymgyrch yn erbyn addysg Gymraeg, ac am gyhuddo Llywodraeth Cymru o orfodi’r iaith ar blant.

A bellach mae wedi dod i’r amlwg ei bod wedi’u chyfweld ar gyfer rhaglen Byd yn ei le – rhaglen sy’n cael ei gyflwyno gan Guto Harri, ei gynhyrchu gan ITV Cymru, a’i ddarlledu ar S4C.

Dechreuodd y dilyw diweddaraf o feirniadaeth ar dydd Mawrth (Medi 25) pan bostiodd Katie Hopkins neges ar Twitter yn diolch ITV Cymru.

https://twitter.com/KTHopkins/status/1044593697256615936

Yn sgil hynny fe ymatebodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru, trwy geryddu ITV Cymru a Guto Harri am “rhoi ocsigen i ledaenwr casineb peryglus”.

Ymatebodd Guto Harri i hynny trwy fyny nad yw’r rhaglen wedi “rhoi llwyfan” i’r ffigwr, gan ddweud mai eu nod yw “holi a herio ffigurau dylanwadol (hoff neu atgas)”.

Mae hefyd wedi diolch Katie Hopkins am y cyfweliad, “ac am gytuno i dreulio wythnos yn trio dysgu’r Gymraeg”.

Daw rhagor o feirniadaeth gan y newyddiadurwr i’r Guardian, John Harris, sydd wedi rhybuddio bod newyddion teledu yn troi’n “bantomeim”.

Bydd Katie Hopkins yn ymddangos ar Byd yn ei le ar S4C ar dydd Mawrth (Hydref 2).