Mae’r BBC wedi penderfynu peidio â symud eu staff yng Nghaerfyrddin i ganolfan Yr Egin oherwydd eu bod yn fodlon a’u swyddfa bresennol.

Ar dir Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant mae’r Egin, a’r adeilad hwnnw ydi pencadlys newydd S4C yng ngorllewin Cymru.

Bydd sawl cwmni arall yn rhannu’r ganolfan gyda S4C – mae’n debyg bod y ganolfan yn dri chwarter llawn – ond dyw’r BBC ddim ymhlith y tenantiaid hynny.

Gerbron Pwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chyfathrebu dydd Mercher (Medi 26) mae Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, wedi esbonio’r rhesymeg y tu ôl hynny.

Sgwrsio

“Cawsom sgwrs dda iawn gyda’r brifysgol ynglŷn â’r posibiliad o gyd-leoli (co-locating),” meddai.  Rydym wedi bod yng Nghaerfyrddin am y rhan orau o 20 i 30 blynedd.

“Mae gennym tua dwsin o staff yno. Ac oherwydd lefel yr isadeiledd darlledu sydd gyda ni yno yn barod, rydym wedi penderfynu peidio â symud i ran arall o’r dre.

“Oherwydd, byddai’n costio dim ond rhyw hanner miliwn o bunnau yn fwy jest i symud cilomedr fyny’r ffordd. Fyddwn ni ddim yn yr adeilad yn gorfforol.”

Mae staff y BBC yng Nghaerfyrddin yn gweithio o stiwdio ar Heol y Prior, ac oddi yno mae rhaglen radio Ifan Jones Evans yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru.

Pwyllgor

Wrth siarad â’r pwyllgor Cynulliad, mae Rhodri Talfan Davies hefyd wedi datgelu awydd i gydweithio â chwmnïau’r Egin, er na fyddan nhw yno.

“Rydym yn siarad gyda’r brifysgol ynglŷn â’n cynlluniau i ehangu amrywiaeth o ran prentisiaethau a hyfforddi,” meddai.

“Oes yna bosibiliad i ni weithio, nid yn unig gyda S4C, ond gyda thenantiaid eraill o fewn yr Egin er mwyn hybu cyflogaeth a chyflogadwyedd yng ngorllewin Cymru.”