Mae mwy na 3,300 o blant wedi cael budd o gynllun gofal plant Llywodraeth Cymru yn ystod ei flwyddyn gyntaf, meddai’r Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies.

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu 30 awr o gofal plant am ddim ar gyfer rheini mewn gwaith sydd â phlant rhwng tair a phedair oed.

Dim ond rhai o ardaloedd Cymru’n sy’n gweithredu’r cynllun ar hyn o bryd, ond y bwriad yw ei gyflwyno trwy’r wlad gyfan erbyn 2020.

“Rydw i wrth fy modd bod cynifer o blant a’u teuluoedd wedi elwa ar y cynnig gofal plant yn ystod y flwyddyn gyntaf,” meddai Huw Irranca-Davies.

“Mae’n galluogi rhieni i ddechrau gweithio neu i ddychwelyd i’r gwaith…

“Ac nid dyna ddiwedd y gân – mae ein cynnig yn helpu i greu swyddi gofal plant o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled Cymru.”

Cyflwyno fesul cam

Mae’r 30 awr o ofal yn cael ei ddarparu i rieni sy’n gweithio am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, gyda’r 30 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 o addysg Cyfnod Sylfaenol a 20 awr o ofal gan ddarparwr cofrestredig.

Siroedd Blaenau Gwent, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Cheredigion yw’r rhai sy’n darparu’r cynllun yn llawn ledled eu hardaloedd ar hyn o bryd, a bydd sawl awdurdod lleol arall yn ymuno â nhw yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae ffigyrau’n dangos bod 3,395 o blant wedi derbyn lleoedd mewn lleoliadau sy’n cynnig y cynllun yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda dros 574 o ddarparwyr wedi ymuno.