Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad i ymosodiad rhyw difrifol yn y Drenewydd ym Mhowys neithiwr (dydd Llun, Medi 24).

Mae lle i gredu bod y digwyddiad wedi digwydd rhwng wyth ac 11yh ar lwybr sy’n arwain o Heol y Gamlas yn y dref.

Yn ôl yr heddlu, mae dyn wedi cael ei gymryd i’r ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae’r dioddefwr yn derbyn cymorth gan arbenigwyr.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un a fu’n dyst i’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith, ac yn dweud bod disgwyl i swyddogion barhau i fod â phresenoldeb yn yr ardal drwy gydol y dydd heddiw.