Mae’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru (BMA Cymru) wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd cyflogau’r rhan fwyaf o feddygon a deintyddion yng Nghymru yn codi 2%.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cytundeb cyflog newydd heddiw (dydd Mawrth, Medi 24), sy’n cynnwys mwy o gynnydd mewn cyflogau i feddygon a deintyddion yng Nghymru na’r hyn a gafodd ei gytuno yn Lloegr.

Bydd cynnydd o 2% yn cael ei roi i gyflogau ymarferwyr meddygol sy’n derbyn cyflog neu sydd ar gontract, a chynnydd o 1.5% i feddygon arbenigol a chyswllt (SAS).

Bydd taliadau hefyd yn cael eu hôl-ddyddio i Ebrill 2018.

Dywed Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar bob un o’r argymhellion a gafodd eu hamlinellu gan y Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion wrth gyflwyno’r cytundeb cyflogau newydd.

Ond mae hefyd yn rhybuddio y gall gweithredu’r cytundeb “heb gyllid priodol yn ei sgil” achosi trafferth o ran cyllido’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.

“Risg”

“Yn dilyn blynyddoedd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol i fodloni argymhellion y Corff Adolygu,” meddai Vaughan Gething.

“Y gwir amdani o hyd, fodd bynnag, yw bod ein cyllidebau’n gyfyngedig, felly mae diwallu cytundeb cyflogau sy’n deillio o godi cap cyflogau Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb gyllid priodol yn ei sgil yn golygu bod risg o ran cyllido Gwasanaeth Iechyd Cymru yn y dyfodol.”

Croesawu’r cynnydd

Yn ôl Cadeirydd Cyngor BMA Cymru, David Bailey, fe allai’r cytundeb fod wedi mynd gam ymhellach yn dilyn sawl blwyddyn o chwyddiant.

Ond mae’n ychwanegu y bydd doctoriaid yng Nghymru’n “falch” o’r cynnydd newydd hwn mewn cyflogau.

“Mewn cyfnod pan mae’r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu prinder eithriadol ledled y Deyrnas Unedig, a doctoriaid yn gorfod delio â lefelau uchel o angen, mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn deall gwerth doctoriaid,” meddai.

“Drwy ddilyn trywydd gwahanol i’r hyn a gafodd ei gymryd yn Lloegr, mae hyn yn dangos fod camau cadarn yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod Cymru’n lle atyniadol i ddoctoriaid weithio.”