Mae dyn ifanc o Cheltenham, a gafodd ei arestio’r wythnos ddiwethaf ar amheuaeth o greu graffiti asgell-dde eithafol yng Nghaerdydd, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y dyn 19 oed ei arestio ddydd Iau diwethaf (Medi 20) wrth i’r heddlu ymchwilio i achosion o graffiti a phosteri asgell-dde mewn gwahanol leoliadau yn y brifddinas.

Roedd y lleoliadau hynny’n cynnwys adeilad y Senedd a Chanolfan y Mileniwm yn ardal y Bae, ac adeiladau Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl yr heddlu, bu rhai o’r achosion ar adeg pan oedd digwyddiad heddwch yn cael ei gynnal yn y brifddinas ym mis Mawrth.

Mae’r dyn o Cheltenham yn cael ei amau o annog casineb hiliol a chynllwyno i gynnau tân yn fwriadol.