Gwnaeth rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd 2017 wario £2.3 miliwn yn ystod eu hymweliad â’r brifddinas, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a threfnwyr y ras, Run 4 Wales, hefyd yn dangos bod £205,000 wedi cael ei wario yng ngweddill Cymru.

Mae’r gwaith wedi’iseilio ar ddata 3,292 o redwyr, ac wedi ystyried gwariant ar eitemau fel bwyd, diod, llety, teithio, manwerthu a’r tâl am redeg y ras.

“Mae’n rhoi cymaint o foddhad gweld effaith gadarnhaol digwyddiad cyfranogiad torfol mwyaf Cymru ar economi’r wlad,”  meddai Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman:

“Mae Run 4 Wales yn gorff nid-er-elw, ac mae’n buddsoddi canran fawr o’r arian sy’n cael ei godi trwy’r ras, mewn rhedeg ar lawr gwlad.”

Canfyddiadau

  • Roedd chwarter y rhedwyr yn dod o Gaerdydd
  • Roedd ychydig dros hanner o weddill Cymru
  • Roedd ychydig dan chwarter yn dod o weddill y Deyrnas Unedig
  • Roedd llai nag 1% o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig

Bydd y ras eleni – sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed – yn cael ei chynnal ar Hydref 7.