Mae’r pêl-droediwr David Cotterill, wedi sôn am ei brofiadau ag iselder, ac yn credu bod “nifer helaeth” o chwaraewyr eraill yn profi’r un trafferthion ag ef.

Mae David Cotterill, sy’n 30 oed, wedi chwarae dros Gymru dros ugain o weithiau, ac wedi bod yn brwydro ag iselder ers pan oedd yn ei arddegau, meddai.

“Yr ymennydd yw’r arf mwyaf pwerus sydd gennych,” meddai wrth y BBC. “Ac weithiau mae’n medru’ch rhwystro rhag gweld pethau positif.

“Dw i wedi chwilio am y ffordd hawsaf i ladd fy hun. Ond wedyn r’ych chi’n meddwl: ‘Sut alla i wneud hynny pan mae gen i blant, a gwraig?

“Weithiau r’ych chi’n cael ambell ddiwrnod lle r’ych chi’n teimlo’n OK eto. Ond mae’r patrwm yn ailadrodd ei hun.”

“Dychrynllyd”

Mae David Cotterill yn credu bod pêl droedwyr yn amharod i rannu’u problemau â’u rheolwyr oherwydd yr effaith y gallai gael ar eu gyrfa.

Dylid trin iechyd meddwl fel iechyd corfforol, meddai, a petai hynny’n digwydd fe fyddai’n codi ymwybyddiaeth bod “nifer dychrynllyd” o chwaraewyr â phroblemau.