Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn barod i gefnogi Eluned Morgan “os oes angen” er mwyn sicrhau nad dynion yn unig sydd yn y ras i’w olynu.

Ar hyn o bryd mae dau Aelod Cynulliad wedi llwyddo i ennill digon o enwebiadau i ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur, sef Mark Drakeford a Vaughan Gething.

A gan fod angen cefnogaeth pum Aelod Cynulliad arall er mwyn ymuno â’r gystadleuaeth, mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, un yn brin er mwyn ymuno â nhw.

Gyda rhai o fewn y Blaid Lafur yn dadlau bod angen menyw ar y papur pleidleisio, mae Carwyn Jones bellach wedi datgelu y byddai’n barod i enwebu Eluned Morgan.

“Mae’n rhaid i mi ddweud na fyddai’n iawn yn 2018, i ni gynnal cystadleuaeth heb ddynes ar y papur pleidleisio,” meddai. “Os oes angen, bydda i’n rhoi enwebiad i sicrhau bod hynny’n digwydd.”

“Pobol sy’n dewis bod yn anwybodus, ac sydd mewn safleoedd breintiedig, yw’r rhai sy’n galw hyn yn docynistiaeth.”

Cynhadledd

Daeth ei sylw yn ystod anerchiad i Gynhadledd Flynyddol y blaid yn Lerpwl ar ddydd Llun (Medi 24), lle bu iddo gyhoeddi buddsoddiad £6 miliwn.

Daw hefyd yn sgil sylwadau gan Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’i honiadau ar ei flog bod yna “ymgyrch fwriadol” i gyfyngu’r dewis.

“Diolch”

Mae Eluned Morgan wedi ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddiolch i Carwyn Jones “am wrando ar aelodau o’r Blaid Lafur ar lawr gwlad a oedd eisiau y cyfle i bleidleisio dros fenyw am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.”

Mae hefyd wedi trydar llun o’i hun yn gwisgo crys-t ag arno lun rhosyn a’r slogan: “Welsh Women Persist / neverthless she persisted”.