Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £10m yn ychwanegol ar gyfer hyfforddiant ar-lein i staff y Gwasanaeth Iechyd.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cael ei lansio heddiw (dydd Llun, Medi 24), a nod y corff yw comisiynu, cynllunio a datblygu addysg a hyfforddiant gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywed yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, fod hyn yn rhan o gynllun i “drawsnewid y Gwasanaeth Iechyd”, gan ddod â gwasanaethau’n “agosach” at gleifion a lleihau’r ddibyniaeth ar ysbytai.

Bydd y £10m yn cael ei ddefnyddio i sefydlu e-lyfrgell, a fydd yn darparu deunyddiau dysgu, gan gynnwys e-gyfnodolion, papurau ymchwil ac unrhyw wybodaeth arall.

“Meithrin a datblygu pobl a sefydliadau”

“Mae cael gweithlu sy’n gryf a chynaliadwy yn hollbwysig er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â’r gwaith trawsnewid, a dyma un o’r prif resymau dros lansio AaGIC heddiw,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd AaGIC yn helpu i feithrin a datblygu pobl a sefydliadau er mwyn iddynt allu cyflawni’r camau nesaf yn y gwaith o ddatblygu’r Gwasanaeth Iechyd a bydd hynny yn arwain at wasanaethau gwell i bobol Cymru.”

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn sefydliad sy’n tynnu ynghyd Deoniaeth Cymru, Canolfan Addysg Fferyllol Cymru i Raddedigion (WCPPE) a Gwasanaethau’r Gweithlu, Addysg a Datblygu GIG Cymru.