Mae yna “ymgyrch fwriadol” ar droed i rwystro Eluned Morgan rhag sefyll am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.
Dyna farn Alun Davies, un o’r pedwar Aelod Cynulliad sydd wedi enwebu Gweinidog y Gymraeg i olynu Carwyn Jones wrth y llyw.
Mae dau AC – Mark Drakeford a Vaughan Gething – wedi llwyddo i ennill digon o enwebiadau i ymgeisio am y rôl, a bellach mae pob Aelod Cynulliad wedi datgan pwy maen nhw’n cefnogi.
Gan fod Eluned Morgan un enwebiad yn fyr o fedru sefyll, mae’n gobeithio y bydd un o gefnogwyr y dynion yn newid ei feddwl ac yn ei galluogi i ymuno â’r ras.
Ond does dim arwydd bod hynny am ddigwydd, ac mewn blog ar ei wefan mae Alun Davies wedi ceryddu ei gyd-Aelodau Cynulliad Llafur tros hynny.
“Mae’r ffaith bod pobol yn amharod i gael dynes ar y papur pleidleisio yn adlewyrchu’n wael ar y Blaid Lafur yn y Cynulliad,” meddai.
“Nid camgymeriad, neu wall yw hyn. Dydy hyn ddim yn anfwriadol. Canlyniad yw hyn, o ymgyrch fwriadol i gyfyngu’r dewis sydd ar gael i’r cyhoedd.”
Ymgyrchu
Roedd Alun Davies ei hun wedi gobeithio ymgeisio am yr arweinyddiaeth, ond methodd ag ennill enwebiadau a phenderfynodd gefnogi Eluned Morgan yn lle.
Yn ei flog, mae wedi sôn rhywfaint am hynny: “Roedd fy mhenderfyniad i beidio ag ymgyrchu am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn un anodd,” meddai.
“Hoffwn fod wedi treulio’r wythnosau nesa’ yn teithio o gwmpas y wlad yn cynnig dadl o blaid newid radical, a thros y fath o blaid a mudiad gwleidyddol yr hoffwn weld.”