Roedd y syniad o greu canolfan iaith yn Nant Gwrtheyrn ddiwedd yr 1970au yn “gwbwl anghredadwy ac amhosib”, meddai un o’r sylfaenwyr.

Mae Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn dathlu deugain mlynedd ers ei sefydlu y penwythnos hwn.

Syniad Dr Carl Clowes, a oedd yn gweithio yn Llanaelhaearn ar y pryd, oedd sefydlu’r ganolfan iaith ym Mhen Llŷn.

Ond er bod Nant Gwrtheyrn yn enw cyfarwydd ledled Cymru erbyn hyn, mae’r cyn-feddyg teulu yn dweud bod yr Ymddiriedolaeth wedi gorfod wynebu “sawl her” ar y cychwyn.

Achos cydweithredol

Nid y lleiaf o’r heriau, meddai Carl Clowes, oedd gwrthwynebiad y bobol leol, prinder ariannol, a’r ffaith iddi gymryd chwe blynedd i’r Ymddiriedolaeth brynu hen bentref chwarel a oedd wedi bod yn adfeilion ers ugain mlynedd.

Ond mae’n ychwanegu bod y syniad wedi dechrau “cydio” ymhen blynyddoedd, gyda’r gefnogaeth a ddeuai o bob rhan o Gymru yn “galondid” iddo.

“Dw i’n meddwl, wrth edrych yn ôl, yn amlwg yr oeddwn i’n dyheu am yr hyn sydd gennym ni heddiw, ond dw i’n meddwl fy mod i’n gwbwl wrthrychol yn dweud bod hwn yn achos cydweithredol ar lefel genedlaethol,” meddai wrth golwg360.

“Roedd pobol yn mynd ati i o bob cwr o Gymru i uniaethu â’r nod o greu’r ganolfan iaith gyntaf yma. Roedd pob cornel bron yn mynd ati efo’i boreau coffi neu deithiau cerdded ac yn y blaen, a hynny’n galondid mawr i mi.

“Yn y blynyddoedd cynnar roedd hi’n anodd, ond erbyn hyn, wrth reswm, mae rhywun yn hynod falch o beth sydd wedi digwydd.”

‘Rhoi’r iaith ar waith’

Yn ôl Carl Clowes, sydd bellach yn Llywydd yr Ymddiriedolaeth, roedd yna ddau gymhelliad y tu ôl i sefydlu Canolfan Nant Gwrtheyrn.

Y cyntaf, meddai, oedd yr angen i greu gwaith mewn ardal Gymreig a oedd wedi colli “bron traean” o’i phoblogaeth mewn ugain mlynedd.

Mae’n dweud bod Deddf iaith 1967 â rhan yn y sefydlu hefyd, gyda sefydliadau cyhoeddus yn galw am fwy o weithwyr a allai weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Do’th y ddau syniad ynghyd, sef yr angen am waith ar y naill law, a’r angen am beiriant Cymreigio ar y llaw arall,” meddai.

“Wedyn, wedi i ni weld Nant Gwrtheyrn ar gyrion y practis, a gweld hwnnw’n adnodd mor arbennig, roedd modd defnyddio’r Nant i’r pwrpas hwnnw.”