Mae’r nifer o ddosbarthiadau sydd â gormod o ddisgyblion ynddyn nhw wedi cynyddu, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Yn 2017/18, roedd yna 181 dosbarth iau – blynyddoedd 3 i 6 – yng Nghymru gyda mwy na 30 o ddisgyblion, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru.

Mae hynny bedair gwaith yn fwy na’r ffigwr ar gyfer 2013/14 – sef 44 dosbarth – a hon yw’r pumed flynedd yn olynol i’r ffigwr gynyddu.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad ac ysgrifennydd addysg cysgodol Plaid Cymru, mae’r duedd yn un “sy’n achosi pryder”.

“Mae’r Llywodraeth Lafur hon yn methu ag ymdrin â chynnydd ym maint dosbarthiadau, mae’n torri ei rheolau ei hun ac yn rhoi nifer cynyddol o athrawon dan fwy o bwysau,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Mae plant, eu rhieni a’r proffesiwn dysgu yn haeddu llawer mwy nac addewidion gwag sy’n cael eu torri’n ddyddiol yn ein hysgolion.”

Babanod

Yn achos dosbarthiadau babanod – derbyn, a blynyddoedd 1 a 2 – mae’r nifer o ddosbarthiadau â mwy na 30 o ddisgyblion wedi disgyn.

Er hynny dyw’r nifer heb ddisgyn i sero, a hynny er gwaetha’r ffaith bod dosbarthiadau o’r fath yn anghyfreithlon dan un o gyfreithiau Llywodraeth Cymru.

Cafodd y ffigurau yma eu darganfod gan wasanaeth ymchwil y Cynulliad yn dilyn cais gan Llŷr Gruffydd. Gallwch weld casgliad llawn isod.

Ffigurau

Iau

  • 2017/18 – 181 dosbarth gyda mwy na 30 o ddisgyblion
  • 2016/17 – 166 dosbarth
  • 2015/16 – 140 dosbarth
  • 2014/15 – 89 dosbarth
  • 2013/14 – 44 dosbarth

Babanod

  • 2017/18 – 11 dosbarth anghyfreithlon o fawr
  • 2016/17 – 27 dosbarth
  • 2015/16 – 14 dosbarth
  • 2014/15 – 24 dosbarth
  • 2013/14 – 24 dosbarth