Mae Rhys Ifans yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau heddiw er mwyn dathlu agoriad sinema newydd yng Nghaernarfon.

Bydd yr actor enwog yn cwrdd â thua 120 o blant ysgol ac yn sôn am ei waith, a heno bydd y ddarlledwraig Lisa Gwilym yn ei holi am ei yrfa.

“Mae ffilm yn gyfrwng mor bwerus a all fynd â ni i fyd arall, ein hysbrydoli ni efo straeon gwych a’n dysgu ni am yr emosiynau rydan ni i gyd yn eu rhannu,” meddai Rhys Ifans cyn yr agoriad swyddogol.

“Mae’r buddsoddiad pwysig hwn yn gyfle gwych i’r gymuned leol allu gwylio’r ffilmiau diweddaraf gyda’i gilydd ar eu stepen drws.”

£4m am estyniad

Bydd y ddwy sgrin sinema yn cael eu gosod mewn dwy ystafell wahanol, gydag un yn ddigon mawr i ddal 119 person, a’r llall yn medru dal 65 o bobol.

Cafodd tua £4m ei wario ar adeiladu’r estyniad, a £150,000 ei wario ar waith adnewyddu ym mar Galeri.

Daeth £1.8m o’r goffrau Croeso Cymru (corff hyrwyddo twristiaeth Llywodraeth Cymru), £1.5m gan Gyngor Celfyddydau Cymru a £185,000 gan Lywodraeth Cymru, gyda Galeri Caernarfon Cyf yn talu’r gweddill.

Mae disgwyl i’r sinema ddenu dros 25,000 o bobol – 500 tocyn yr wythnos ar gyfartaledd – ac mae Galeri’n anelu at ddangos mil o ffilmiau’r flwyddyn.

Rhan o estyniad ehangach yw’r sinema, a gymerodd bron i flwyddyn a hanner i’w adeiladu, ac sy’n cynnwys sawl adnodd gwahanol.

O fewn yr estyniad mae yna fynedfa newydd, swyddfa docynnau newydd, gofod arddangos celf, safle creu celfyddydol, swyddfa newydd i staff Galeri ac ystafell gyfarfod.

Mae’r seremoni agor swyddogol yn digwydd am 2.30yp.