Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi achosi llifogydd a phroblemau â thrafnidiaeth ledled Cymru.
Bu’n rhaid stopio trenau rhwng Caerfyrddin ac Aberdaugleddau wedi i goeden gwympo ar y cledrau, ac mae tirlithriad wedi achosi trafferthion i drenau yn y Rhondda.
Hyd yma, mae gwerth hanner mis o law wedi disgyn dros Bont Senni ym Mhowys, ac mae 12 rhybudd llifogydd wedi dod i rym yn ne orllewin y wlad.
Yn sgil y trafferthion a ddaeth dros nos â Storm Bronagh, bydd rhybudd tywydd mewn grym yng Nghymru hyd at 9yb dydd Gwener (Medi 21).
Mae lluoedd heddlu yn rhybuddio modurwyr i gymryd gofal wrth yrru i’r gwaith, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod y storm heb gilio.
Rhagolygon
“Mae Storm Bronagh yn symud tuag at ogledd a dwyrain [y Deyrnas Unedig], ac mae yna wyntoedd cryf o hyd,” meddai Rachael West, o’r Swyddfa Dywydd.
“Rydym yn disgwyl gwyntoedd hyd at 45 i 55 milltir yr awr ledled y Deyrnas Unedig, ac ynghyd â hynny mi fydd yna gawodydd trwm, a rhywfaint o gesair a tharanau.”