Mae dau o brif ysbytai Gogledd Cymru yn parhau i fethu a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mewn uned brys Ysbyty Maelor Wrecsam, dim ond 49.7% o gleifion sy’n aros llai na phedair awr i weld meddyg, ac yn Ysbyty Glan Clwyd mae’r ganran yn 52.9%.

Ffigur Ysbyty Maelor Wrecsam yw’r un isaf ar gyfrer unrhyw ysbyty yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau, ac mae’r ddau ysbyty wedi bod ymhlith y gwaethaf yn y wlad ers mis Ionawr.

Yn ôl targedau Llywodraeth Cymru, dylai bod 95% o gleifion unedau brys yn aros llai na phedair awr i weld meddyg.

“Brawychus”

“Mae’r ystadegau brawychus yma yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru yn gadael staff a chleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i lawr,” meddai Angela Burns, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gweld gwelliannau i’r unedau yma. A gobeithiwn y bydd ysbytai yng Nghymru yn dal fyny â rheiny yn Lloegr.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am ymateb.