Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi y bydd meddygfa wledig yng Ngheredigion, sy’n gwasanaethu tua 6,000 o gleifion, yn cau ym mis Ionawr 2019.

Roedd ansicrwydd wedi bod ynglŷn â dyfodol Meddygfa Teifi yn Llandysul ar ôl iddyn nhw gyhoeddi rhybudd fis diwethaf y bydd eu contract â’r bwrdd iechyd yn dod i ben yn y flwyddyn newydd.

Roedd hynny oherwydd eu bod nhw wedi methu â phenodi meddyg newydd, wedi i nifer y staff yno ostwng o bedwar i ddau a hanner.

Erbyn hyn, mae’r bwrdd iechyd wedi dod i’r penderfyniad mai’r “trefniant mwyaf priodol” ar gyfer dyfodol y feddygfa yw dosbarthu’r cleifion i feddygfeydd eraill.

“Datblygu cynlluniau”

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gynnal y safonau gofal uchel sy’n cael eu darparu ym Meddygfa Teifi yn bresennol, a dymunwn sicrhau cleifion y bydd y gwasanaethau pwysig hyn yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal hon,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Rydym wedi cytuno i gydweithio â Meddygfa Teifi a meddygfeydd cyfagos i ganfod y ffordd orau i sicrhau gwasanaethau ar gyfer y cleifion.

“Byddwn nawr yn gweithio gyda’r tîm presennol a rhanddeiliaid i ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau i’r dyfodol.”

Pryder

Un sydd wedi bod ar lyfrau’r feddygfa ers blynyddoedd yw Mary Davies o Dre-fach, sy’n disgrifio’r penderfyniad i gau’r feddygfa yn “drychineb”.

Er bod meddygfa arall yn Llandysul – Meddygfa Llyn-y-frân – mae’n pryderu na fydd lle i gleifion newydd yno gan ei bod eisoes “hyd y fyl”.

“Dydyn ni ddim yn meddwl y bydde syrjeri doctor yn cau,” meddai wrth golwg360.

“R’yn ni’n cymryd bod y banc a’r pethau yna’n cau, ond pan mae syrjeri yn cau, r’yn ni’n meddwl ‘wel beth sy’n mynd i ddigwydd i ni?’

“Mae pob man yn llawn – d’yn ni ddim yn gwybod ble i fynd.”

Fe fydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Tysul, Llandysul, ar Hydref 3, er mwyn rhoi cyfle i bobol drafod y sefyllfa.