Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi cyngor diogelwch i fyfyrwyr sy’n dechrau yn y brifysgol ar drothwy Wythnos y Glas.

Mae swyddogion cyswllt myfyrwyr yn cydweithio â’r prifysgolion er mwyn i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o ble mae angen bod yn wyliadwrus.

Ymhlith y cyngor sy’n cael ei roi mae:

* Osgoi yfed diodydd nad ydych wedi’u gweld yn cael eu paratoi, a pheidiwch â gadael diodydd heb ofalu amdanyn nhw

* Aros gyda ffrindiau ar noson allan, a mynd adref gyda nhw

* Sicrhau fod batri’r ffôn yn llawn er mwyn gallu ffonio 999 mewn argyfwng

* Cau bob ffenest a drws cyn mynd allan

* Peidio â gadael allweddi mewn man cyhoeddus sy’n hawdd ei gyrraedd

* Peidio â rhoi manylion personol ar allweddi na chylchau allweddi

* Cuddio eiddo gwerthfawr

Troseddau ar y we

Mae’r heddlu’n cynghori myfyrwyr hefyd i fod yn ymwybodol o seibrdroseddau a diogelwch wrth ddefnyddio’r we.

“Byddem yn eich cynghori i gadw’ch proffil yn gaeedig a chyfyngu ar y sawl sy’n gallu gweld eich gwybodaeth,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Matthew Phillips, Swyddog Diogelu Seiber, Heddlu De Cymru.

“Sicrhewch fod gennych gyfrineiriau cryf – mae tri gair ar hap yn gweithio’n dda – a pheidiwch â datgelu unrhyw beth na fyddech am i ddarpar gyflogwr neu aelod o’r teulu ei weld.”