Mae’r Aelod Cynulliad, Mark Drakeford, wedi sôn am y “cyfnod anodd iawn” y mae ef a’i deulu wedi bod trwyddo ers i’w fab gael ei gyhuddo o drais.

Ddoe (dydd Mawrth. Medi 18), fe gafodd Jonathon James Drakeford, mab yr Ysgrifennydd Cyllid, ei ddyfarnu’n euog o dreisio yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos hon, ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu cyn diwedd yr wythnos hon.

“Mae’r teulu wedi profi cyfnod anodd iawn,” meddai Mark Drakeford. “Cydymdeimlwn â phawb sydd wedi’u heffeithio, yn enwedig y person a gafodd ei dargedu.

“Does dim byd pellach i’w ychwanegu ynghylch y mater personol a phreifat yma.”