Mae dwy lôn ynghau ar yr A470 yn Rhondda Cynon Tâf yn dilyn gwrthdrawiad.

Tarodd car i mewn i farier ger cylchfan Abercynon i gyfeiriad y de.

Mae un lôn y naill ochr a’r llall ynghau yn dilyn y digwyddiad.