Mae actor o Gymru wedi ennill un o brif wobrau’r byd actio yn yr Unol Daleithiau neithiwr (dydd Llun, Medi 17).

Fe lwyddodd Mathew Rhys i ennill Emmy am yr actor gwyrwyaidd gorau mewn cyfres ddrama.

Mae wedi derbyn y wobr am ei ran fel ysbïwr o Rwsia yn y gyfres The Americans, rhan y mae wedi bod ynddi ers 2013.

Ymhlith actorion eraill o wledydd Prydain a gafodd lwyddiant yn y seremoni wobrwyo yn Los Angelas neithiwr oedd Elizabeth Foy.

Fe dderbyniodd hi Emmy ar gyfer yr actor benywaidd gorau am ei rhan fel y Frenhies Elizabeth yn y gyfres The Crown ar Netflix.

Roedd ei chyd-weithiwr, Matt Smith, yn agos at gipio’r wobr am yr actor cefnogol gorau, tra bo Benedict Cumberbatch wedi’i enwebu am yr un wobr â Mathew Rhys.

Cafodd Thandie Newton ei choroni’n actor cefnogol benywaidd gorau am ei rhan yn y gyfres ddrama Westworld.