Mae elusen yn tynnu sylw atgam-drin rhywiol ymhlith plant o’r un oed, wrth i ystadegau ddangos bod cannoedd wedi cysylltu â nhw.

Mae Childline, gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan yr NSPCC, yn dweud bod dros 300 o blant wedi cysylltu â’r llinell gymorth i drafod eu pryderon am gam-drin ymhlith cyfoedion.

Ac yn sgil hyn, mae’r elusen wedi erfyn ar blant sydd wedi dioddef camdriniaeth o’r fath, i drafod eu profiadau â phobol y gallan nhw ymddiried ynddyn nhw.

Cymorth

“Mae pobol ifanc yn dweud wrthym ni eu bod wedi cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithredoedd yn erbyn eu hewyllys,” meddai Esther Rantzen, Llywydd Childline.

“Weithiau mae yna drais ynghlwm â hynny. Rydym yn gwybod bod perthnasau yn medru bod yn ddryslyd, ac mae’n anodd gwybod pryd mae pethau’n dechrau mynd o le.

“Os ydych yn teimlo pwysau i wneud rhywbeth dydych chi ddim am ei wneud, rydym yn erfyn arnoch i gael cymorth, naill ai gan ffrind, oedolyn y gallwch ymddiried ynddo, neu Childline.”  

Yr ystadegau

  • Fe gysylltodd 304 o blant yng Nghymru â Childline dros y ddwy flynedd ddiwethaf, i drafod eu pryderon am gam-drin rhywiol ymhlith cyfoedion;
  • Fe gynhaliodd yr NSPCC 3,878 sesiwn gwnsela ledled gwledydd Prydain yn 2016/2017 ar gyfer plant sy’n poeni am gam-drin rhywiol ymhlith cyfoedion;
  • Fe gynhaliodd yr NSPCC 111 sesiwn gwnsela yng Nghymru yn 2016/2017.