Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cerddor gwerin a roc, Maartin Allcock, a fu farw ddydd Sadwrn (Medi 15) yn 61 oed.

Er mai yn Lloegr y cafodd ei eni, fe ddysgodd Gymraeg pan symudodd i Gymru i fyw, ac fe ddaeth yn gynhyrchydd dylanwadol i nifer o grwpiau trwy ei waith yn stiwdio Sain.

Roedd wedi bod yn brwydro canser yr iau ers mis Ionawr.

Fe gafodd ei eni yn Manceinion ac astudiodd gerddoriaeth yn Huddersfield a Leeds.

Dechreuodd chwarae cerddoriaeth yn broffesiynol yn 1976, gan fynd ar ei daith gynta’ gyda Mike Harding a’i fand, Brown Ale Cowboys, yn 1977.

Roedd yn fwyaf enwog am fod yn gitarydd yn y band gwerin Fairport Convention rhwng 1985 a 1996, yn ogystal â chwarae’r allweddellau i’r band roc Jethro Tull rhwng 1988 a 1991.

Symudodd i fyw yng Nghymru yn 2000, gan astudio Cymraeg yng Ngholeg Harlech a chyfrannu at sesiynau cerddorol yn Stiwdio Sain yn Llandwrog.

Roedd hefyd wedi’i gymhwyso fel cogydd, a bu’n gwneud y gwaith hwnnw am gyfnod yn Ynysoedd y Shetland.

“Cerddor arbennig”

Yn eu teyrnged iddo, dywed cwmni recordiau Sain bod Maartin Allcock yn “gerddor arbennig” a oedd hefyd yn “gefnogwr brwd o’n diwylliant a’n iaith”.

 

Mae’r delynores a’r canwr gwerin, Gwennan Gibbard, a fu’n cydweithio â Maartin Allcock droeon dros y blynyddoedd, yn dweud ei fod yn “gymeriad, a’i wên a’i jôcs a’i anwyldeb yn llenwi’r lle”.

Mae’r band gwerin Calan hefyd ymhlith y rhai sydd wedi rhannu teyrnged iddo, gan ddweud bod ei farwolaeth yn “golled enfawr i’r sin werin a cherddoriaeth yn gyffredinol”.