Mae saith stryd fawr yng Nghymru wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Stryd Fawr Gorau Prydain.

Nod y gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan yr Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a’u noddi gan Visa, yw dathlu strydoedd mawr gorau a mwya’ uchelgeisiol y Deyrnas Unedig.

Mae cyfanswm o 38 stryd fawr wedi cyrraedd y rhestrau byrion, ac fe fydd pob un ohonyn nhw’n cystadlu am wobr ariannol gwerth £15,000.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei fod yn “newyddion gwych” bod saith stryd fawr yng Nghymru’n cael eu cydnabod mewn cyfnod sy’n “gynyddol yn fwy cystadleuol”.

Y saith o Gymru

Ymhlith y saith stryd fawr sydd wedi’u dewis o Gymru, mae pedair ar y rhestr fer yng nghategori’r ‘Champion’, sy’n rhoi clod i’r stryd fawr orau yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r rheiny’n cynnwys prif strydoedd y Trallwng, Caerfyrddin, Crughywel a Threffynnon.

Y tair stryd fawr sydd wedi’u dewis ar gyfer categori’r ‘Rising Star’ wedyn, sy’n gwobrwyo’r stryd fawr fwya’ uchelgeisiol, yw Aberteifi, Arberth a’r Bont-faen.

“Calon ein cymunedau”

“Mae strydoedd mawr ledled Cymru yn galon i’n cymunedau ac yn darparu cyfleoedd i fusnesau bach gychwyn a  gwneud enw i’w hunain ac i bobol ddod at ei gilydd a chefnogi eu cymunedau trwy siopa’n lleol,” meddai Alun Cairns.

“Pob lwc i bob un o’r strydoedd mawr o Gymru, a dw i’n annog pawb i ddangos eu cefnogaeth a phleidleisio am eu ffefryn.”

Y canlyniad

Mae’r strydoedd sydd wedi cyrraedd y brig wedi cael eu dewis gan banel annibynnol o feirniad, ond ar gyfer y rownd derfynol, fe fydd pleidlais gyhoeddus yn cael ei chynnal.

Bydd y bleidlais honno’n cyfrif am 30% o’r canlyniadau terfynol, tra bo sgôr y beirniaid yn cyfrif am weddill y marciau.

Mae disgwyl i’r enillwyr gael eu cyhoeddi ar Dachwedd 15 2018, a hynny mewn seremoni wobrwyo yn Llundain.