Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys heddiw (dydd Llun, Medi 17) wrth i ymgyrchwyr gwrth-niwclear herio’r penderfyniad i gludo gwastraff o hen orsaf niwclear yng Ngwlad yr Haf i Benarth ym Mro Morgannwg.

Mae’r ymgyrchwyr, sy’n cynnwys y cerddor, Cian Ciarán, a’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, yn gwrthwynebu symud 300,000 tunnell o fwd o orsaf niwclear HinKley Point C i safle sydd dros filltir o Fae Caerdydd.

Maen nhw’n poeni bod y mwd yn cynnwys lefelau o ymbelydredd, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaeth Llywodraeth Prydain, CEFAS, yn dweud ei fod yn ddiogel.

Y frwydr

Fe gafodd papurau ar gyfer yr her gyfreithiol eu cyflwyno gan Cian Ciarán a’u derbyn gan yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ddydd Llun diwetha’ (Medi 10).

Mae’r ymgyrchwyr yn ceisio sicrhau gwaharddiad tros dro ar gynlluniau EDF, sef y cwmni sy’n gyfrifol am symud y mwd o Hinkley Point C.

Mae cronfa ar-lein wedi cael ei sefydlu gan Neil McEvoy gyda’r nod o gyrraedd y targed o £15,000 er mwyn talu am gostau cyfreithiol. Mae dros £6,000 wedi’i gyfrannu ar hyn o bryd.

Bydd y gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn cychwyn am 1yp heddiw, ac mae disgwyl i nifer fod yn bresennol mewn protest y tu allan i’r adeilad.