Mae tri  chyn-arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan – a nifer o gyn-weinidogion y blaid – wedi datgan eu cefnogaeth i Rhun ap Iorwerth yn y ras i arwain y blaid.

Mae Dafydd Wigley, Ieuan Wyn Jones ac Elfyn Llwyd ymhlith nifer o wleidyddion y blaid sydd wedi llofnodi llythyr agored yn dweud pam eu bod yn credu mai Aelod Cynulliad Ynys Môn yw’r ymgeisydd gorau.

Llywydd y Cynulliad ac Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones a’r cyn-Aelod Cynulliad Jocelyn Davies yw’r ddwy arall sy’n cefnogi Rhun ap Iorwerth.

Mae’n un o dri yn y ras, yn erbyn yr arweinydd presennol Leanne Wood ac Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price.

Mae’r llythyr yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau mai Plaid Cymru yw’r blaid sy’n llywodraethu yng nghyfnod nesa’r Cynulliad ar ôl 2021, a bod gan Rhun ap Iorwerth apêl eang er mwyn gwireddu hynny.

Y llythyr

Dywed y llythyr fod y ras arweinyddol yn un “hynod bwysig i Blaid Cymru” a bod angen ethol arweinydd Plaid Cymru “sydd â’r siawns orau i ddod yn Brif Weinidog mewn llywodraeth Plaid Cymru”.

Tra bod y llythyr yn cydnabod fod gan y tri ymgeisydd “rinweddau ardderchog”, Rhun ap Iorwerth yw’r ymgeisydd fydd yn gallu “apelio y tu hwnt i deyrngarwch pleidiol traddodiadol” ac “ennyn ymddiriedaeth” er mwyn sicrhau “cefnogaeth eang i ddod â Phlaid Cymru i lywodraeth”.

Rhun ap Iorwerth, meddai’r llythyr, sydd â’r mwyafrif mwyaf o unrhyw aelod Cynulliad ym Mae Caerdydd (mwy na 9,000 o bleidleisiau).

Ychwanega awduron y llythyr, “Fel tri chyn arweinyd Plaid a seneddol a thri gweinidog yn Llywodraeth Cymru’n Un, credwn fod yn rhaid i Blaid Cymru anelu at ddod yn lywodraeth nesaf Cymru.

“Dim ond trwy fod mewn llywodraeth y gallwn ni weithredu’r polisïau ar yr economi, iechyd, addysg a’r amgylchedd sydd eu hangen i drawsnewid bywydau pobol Cymru.”

Annibyniaeth

Ar y diwrnod y bu’r tri ymgeisydd yn trafod eu gweledigaeth ar gyfer annibyniaeth, mae’r llythyr yn gofyn i aelodau’r blaid ystyried yn ofalus pa ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o allu sicrhau ei bod yn cael ei gwireddu.

“Trwy fod mewn llywodraeth, ac ennyn ymddiriedaeth pobol i lywodraethu, gallwn ni gynyddu’n sylweddol y gefnogaeth am annibyniaeth.

“Bod yn uchelgeisiol a delifro mewn llywodraeth yw’r ffordd orau i ddod â phobol hefo ni ar y daith honno.

“Gofynnwn i aelodau’r blaid ystyried y dadleuon hyn yn ofalus wrth iddynt baratoi i bleidleisio yn yr etholiad arweinyddol yma.”