Mae’r tri sydd am arwain Plaid Cymru wedi amlinellu eu gweledigaeth am Gymru annibynnol yn ystod dadl radio.

Mae Adam Price a Rhun ap Iorwerth yn herio’r arweinydd presennol Leanne Wood yn y ras i fod yn arweinydd nesa’r blaid, gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ymhen llai na phythefnos.

Annibyniaeth oedd un o’r pynciau a gafodd eu trafod ar rifyn arbennig o raglen Radio Wales, Sunday Supplement fore heddiw, gyda’r cyflwynydd Vaughan Roderick yn llywio’r drafodaeth.

Leanne Wood – “dau dymor cyn annibyniaeth”

Wrth gyfeirio at ei llwyddiant wrth ennill sedd y Rhondda yn etholiadau diwetha’r Cynulliad, dywedodd Leanne Wood ei bod hi eisoes wedi dangos yr hyn sy’n gallu cael ei gyflawni mewn llefydd annisgwyl.

Dywedodd fod modd “gwella bywydau pobol os ydyn ni’n gwneud penderfyniadau drosom ni’n hunain”, ond fod angen gwneud mwy na thrafod y sefyllfa yn ystod dadl cyn etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth.

“Cyn i ni allu ymgyrch ar [annibyniaeth], mae angen i ni ateb cwestiynau pobol a gwneud y gwaith caib a rhaw,” meddai, cyn ychwanegu bod “gan lawer o bobol bryderon” a’u bod yn “ofni” annibyniaeth, yn enwedig yn sgil sefyllfa aneglur Brexit.

“Mae angen i ni allu cyflwyno’r achos yn onest, gan sicrhau pobol am yr economeg, a gallu dangos y byddwn ni’n well ein byd oherwydd, wedi’r cyfan, dyna’r holl bwynt.”

Mae Leanne Wood yn dadlau bod angen dau dymor ar lywodraeth Plaid Cymru yn y Cynulliad cyn gallu ymgyrchu go iawn am annibyniaeth.

“Yn ystod y tymor cyntaf, gallwn ni wneud y gwaith o godi sefydliadau sylfaenol nad oes gennym ar hyn o bryd – banciau a chyllid, er enghraifft – ond hefyd, mae angen i ni wneud y gwaith manwl hwnnw wnaeth Llywodraeth yr Alban cyn eu refferendwm yn 2014, sef 650 o dudalennau yn ateb pob cwestiwn y gallwch chi eu dychmygu yn fanwl, yn wahanol iawn i refferendwm Brexit.”

Wrth amlinellu ei phrif reswm dros fod eisiau annibyniaeth, ychwanegodd, “Dydy hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl fod pobol eraill mewn gwlad arall mewn senedd wahanol yn gwneud penderfyniadau drosom ni mewn rhyw ffordd dadol.

“Mae angen i ni dyfu i fyny, dod â’n dibyniaeth i ben ac yna, fe welwn ni rywfaint o lwyddiant go iawn fel cenedl, dw i’n meddwl.

Rhun ap Iorwerth – “ailddylunio Prydain”

Wrth ddadlau ei achos yntau dros annibyniaeth, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai’r “unig ffordd y gallwn ni gyrraedd ein potensial yw drwy ddod yn wlad annibynnol”.

Mae hynny, meddai, yn golygu dod yn wlad sofran “fel unrhyw wlad normal arall yn y byd”.

Dywedodd fod angen darbwyllo pobol o fanteision annibyniaeth cyn mynd â’r mater i’r bleidlais, a bod angen “cydnabod yr hyn y mae pobol yn ei ofni”.

Meddai, “Mae’n ddiddorol, i fi, fod Brexit wedi egluro’r hyn nad yw annibyniaeth i Gymru. Mae Brexit yn golygu adeiladu waliau a dweud wrth bobol, “Dydyn ni ddim eich eisiau chi, gallwn ni fynd ar ein pennau ein hunain”.

“I fi, annibyniaeth i Gymru ydi adeiladu perthnasau o’r dechrau’n deg, adeiladu a bod yn rhan o’r rhwydweithiau mwyaf eang posib, o fewn ynysoedd Prydain a thu hwnt.

Dywedodd fod angen “ailddylunio Prydain fel casgliad o wledydd annibynnol sy’n cydweithio”, a bod angen darbwyllo’r Cymry a phobol sydd wedi symud i fyw i Gymru fod ganddyn nhw lais.

“Mae hynny’n golygu adeiladu cenedl sy’n gyfrifol am ei thynged ei hun ac sy’n cymryd cyfrifoldeb am fynd â ni ar hyd lwybr yr hyn yw gwlad normal.”

Adam Price – “saith cam i annibyniaeth”

Roedd Adam Price eisoes wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer annibyniaeth cyn y ddadl, gan gyhoeddi saith cam at annibyniaeth.

Dywedodd yn ystod y ddadl mai fe yw’r “unig ymgeisydd sydd wedi amlinellu’r saith cam at annibyniaeth”, a’r unig ymgeisydd sydd wedi dangos sut i “wthio’r pwerau sydd gennym i’r eithaf”.

Dywedodd y byddai ailstrwythuro isadeiledd Cymru, tra bod y Llywodraeth Lafur bresennol mewn grym, “yn trawsnewid Cymru gyfan”.

Ond dywedodd fod angen “ysbrydoli pobol Cymru” er mwyn sicrhau newid.

“Mae angen creu darlun o’r Gymru newydd ry’n ni am ei chreu. Rhaid i chi eu darbwyllo nhw [y pleidleiswyr] eich bod chi wedi gwneud y gwaith caled i sicrhau’r atebion.

“Ry’n ni wedi bod yn rhy swil yn y gorffennol.”

Dywedodd hefyd fod angen ateb y cwestiwn ‘beth yw annibyniaeth?’

“I fi, mae annibyniaeth yn brosiect o drawsnewid sydd, yn ei hanfod, ar sail cyfiawnder economaidd.

“Rhaid i chi adeiladu pont rhwng y cwestiwn economaidd a’r cwestiwn cymdeithasol. Y cwestiwn cenedlaethol yw’r cwestiwn cymdeithasol.

“Dyw e ddim yn gwestiwn haniaethol, mae’n gwestiwn am eu bywydau nhw a dod â thlodi endemig dwfn i ben.”