Mae pump o bobol, gan gynnwys gyrrwr tacsi, wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Noc Penfro.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad rhwng y tacsi a char ambiwlans Honda CRV ar ffordd A477 am 12.25 fore heddiw.

Roedd y ddau gerbyd yn teithio i’r un cyfeiriad.

Mae gyrrwr y tacsi a phedwar o deithwyr mewn cyflwr difrifol. Cafodd gyrrwr yr ambiwlans fan anafiadau.

Does neb wedi cael ei arestio, ac mae Heddlu-Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth.