Mae Geraint Davies, cynrychiolydd Cymru ar gorff ‘ffermio cynaliadwy’, wedi ymddiswyddo oherwydd “gwahaniaethau barn” â’r sefydliad.

Cafodd Nature Friendly Farming Network (NFFN) ei lansio ym mis Ionawr, gyda’r nod o hybu ffermio mewn ffordd sydd o fudd i fyd natur.

Ffermwyr ledled y Deyrnas Unedig yw aelodau’r corff, ac am gyfnod bu Geraint Davies yn cynrychioli ei wlad dan y teitl Cadeirydd Cymru.

Ond bellach mae’r ffermwr o’r Bala wedi cefnu ar NFFN oherwydd anghydweld tros effaith eu polisïau ar deuluoedd, ac ar gynhyrchu bwyd.

Angerdd

Er gwaethaf ei ymadawiad, mae Geraint Davies yn mynnu ei fod yn cydweld â’r corff o ran eu hegwyddorion sylfaenol.

“Rwy’n angerddol dros natur a bywyd gwyllt, ffermio a chynhyrchu bwyd, ac mae’r ddau yn mynd law yn llaw ar ein fferm yma uwchlaw’r Bala.

“Rwy’n falch o ddweud ein bod ni eleni wedi creu tri safle nythu newydd ar ein mynydd ar gyfer chwilgorn y mynydd – nid er gwaethaf ffermio, ond oherwydd ffermio a phresenoldeb da byw yn pori, hebddynt hwy ni fyddai’r rhywogaethau hynny yno.”