Mae gyrrwr wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar, yn ogystal â’i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a hanner, ar ôl iddo ladd seiclwr.

Roedd Craig Gough, 36, o Dregolwyn ym Morgannwg eisoes wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad o yrru’n beryglus yn ei erbyn.

Roedd y cyhuddiad mewn cyswllt â digwyddiad a fu ar ffordd yr A48 ar Hydref 28, 2017, pan gafodd Jack Berry, 28, ei ladd tra oedd ar ei feic.

Roedd y cyn-filwr yn seiclo gyda dau o’i ffrindiau pan gafodd ei daro gan gerbyd Craig Gough.

Fe glywodd y llys nad oedd Craig Gough wedi bod yn arddihun am tua 15 eiliad cyn y ddamwain angheuol.

Bu farw Jack Berry, a oedd erbyn hyn yn gweithio fel cogydd mewn tafarn yn Saint Hilari, yn y fan a’r lle. Cafodd ei ddau ffrind eu hanafu yn ystod y digwyddiad hefyd.