Yn groes i’r patrwm diweddar o fanciau yn cau ledled y wlad, mae Llywodraeth Cymru wedi agor un heddiw.

Lleolir pencadlys eu Banc Datblygu Cymru ym Mharc Technoleg Wrecsam.

Cafodd y banc ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, a’i nod yw cefnogi economi’r wlad trwy ddarparu arian i fusnesau bach a chanolig.

Mi fydd 23 aelod o staff yn gweithio yno i gychwyn – mae disgwyl i’r nifer ddyblu i dros 50 erbyn 2021.

Bydd hanner cyfarfodydd bwrdd y corff yn cael eu cynnal yno, a bydd eu Cyfarwyddwr Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol, Neil Maguinness, yn gweithio yn yr adeilad.

Gwasanaethu

“Mae’r pencadlys newydd yn dangos fy mod yn benderfynol y bydd y banc datblygu wirioneddol yn gwasanaethu Cymru gyfan,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Fe fydd yn bartner pwysig, gan weithio’n agos â Busnes Cymru, gyda’n gwaith o gryfhau economïau rhanbarthol Cymru.”