Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, eisiau i Rhun ap Iorwerth ddod yn arweinydd newydd ar y Blaid.

Bu Ieuan Wyn Jones yn arweinydd ar y Blaid am dros ddegawd.

Mae cyn-Aelod Cynulliad Môn yn credu y bydd Brexit yn dod â “niwed difrifol” i Gymru, ac yn tanseilio’r nod o Gymru annibynnol.

Oherwydd hynny, rhaid cael arweinydd sy’n deall goblygiadau Brexit, meddai, ac sy’n barod i gynnal ail refferendwm a fyddai’n rhwystro’r ymadawiad.

“Gan fod ei safiad tros berthynas Cymru ag Ewrop yn gyson a gwydn, mae Rhun yn haeddu ein cefnogaeth,” meddai Ieuan Wyn Jones wrth wefan Nation.Cymru.

Cydweithio

Mae Ieuan Wyn Jones hefyd yn cwestiynu os ydy grŵp Cynulliad Plaid Cymru yn “gweithio fel tîm” ar hyn o bryd, ac mae’n ffyddiog y gallai Rhun ap Iorwerth ddelio â hynny.

“Dw i’n credu bod gan Rhun y sgiliau i sicrhau bod y grŵp yn gweithio’n agos â’i gilydd, gyda chyfres o bolisïau cadarn i gyflwyno rhaglen glir, uchelgeisiol a chredadwy i bleidleiswyr,” meddai.

“Mae ganddo’r weledigaeth a’r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen er mwyn llwyddo, ac er mwyn sicrhau bod y weledigaeth gyffrous honno yn cyrraedd a’n perswadio cynulleidfa newydd.”

Cystadleuaeth

Daw sylwadau Ieuan Wyn Jones rhai diwrnodau wedi i’r Aelod Cynulliad, Siân Gwenllian, ddatgan ei chefnogaeth am Adam Price, ymgeisydd arall am arweinyddiaeth y blaid.

Hyd yma mae llond llaw o ffigyrau blaenllaw wedi cefnogi Rhun ap Iorwerth i olynu Leanne Wood yn y rôl, gan gynnwys y cyn-arweinydd, Dafydd Wigley, a’r Llywydd, Elin Jones.

Ond mae sawl un o fewn y blaid am weld Leanne Wood yn aros wrth y llyw, gan gynnwys yr Aelod Cynulliad Dai Lloyd, ac aelodau o gangen Plaid Ifanc.