Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dweud “bod gormod o bobol yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i fwynhau’r celfyddydau neu gymryd rhan neu weithio ynddynt”.

Maen nhw wedi cyhoeddi eu cynllun corfforaethol ar gyfer y pum mlynedd nesa’.

Yn ôl y Cyngor, mae ganddyn nhw ddwy flaenoriaeth ar gyfer y cyfnod 2018-2023, sef hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn ehangu eu gwaith i bob cymuned yng Nghymru, a chryfhau gallu a gwydnwch y sector er mwyn i ddoniau ifanc ffynnu.

Bydd hyn, medden nhw, yn sicrhau bod y Cyngor yn “gweithio’n fwy effeithiol a chydweithio’n fwy dychmyglon â phartneriaid o’r un meddylfryd ledled Cymru”.

Mae Cadeirydd y Cyngor, Phil George, hefyd yn dweud eu bod nhw’n parhau yn “ymrwymedig i ragoriaeth a chefnogi celfyddyd bryfoclyd, arloesol a dewr”.

“Pobol yn cael eu hamddifadu”

“Erys y ffaith bod gormod o bobol yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i fwynhau’r celfyddydau neu gymryd rhan neu weithio ynddynt,” meddai Phil George.

“Credwn fod cael profiadau celfyddydol a mynegi’r dychymyg er mwyn gwella bywyd yn hanfodol i gymdeithas iach a deinamig ac felly dylent fod ar gael i bawb.”

Amcanion

Ymhlith yr hyn mae’r Cyngor yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesa’ mae:

  • cynyddu’r buddsoddiad yng ngwaith creadigol artistiaid croenddu, Asiaidd ac ethnig, pobol anabl a rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • darparu pecynnau o arian a chefnogaeth i annog gwydnwch ymhlith artistiaid a sefydliadau celfyddydol;
  • manteisio ar y cyfleoedd o weithio’n rhyngwladol;
  • ymestyn y gwaith gyda phlant a phobol ifanc.