Mae’r gost o symud tŷ yng Nghymru ar gyfartaledd yn £6,955, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ffigwr hwn bron hanner y cyfartaledd ar gyfer gwledydd Prydain yn gyffredinol, sydd wedi cynyddu £486 ers y flwyddyn ddiwetha’ i £12,110.

Yn ôl yr ymchwil gan Fanc Lloyds, y prif reswm am hyn yw’r cynnydd mewn prisiau tai, sydd yn ei dro wedi effeithio ar ffioedd asiantaethau tai a’r dreth stamp.

Costau eraill sy’n cael eu cynnwys yn y £12,110 hefyd yw ffioedd syrfewyr  a chostau faniau cludo.

Y ffigyrau

Yr ardal lle mae’r gost o symud cartref ar ei drutaf yw Llundain, lle mae’r cyfartaledd yn £33,741 – cynnydd o £1,649 ers y llynedd.

Gogledd Iwerddon sydd â’r cyfartaledd isa’, gyda’r gost o symud yn £6,156. Yn yr Alban wedyn, mae’r gost yn £6,171.

Mae’r cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan wedi cynyddu £2,890 ers 2008, pan oedd yn £9,220.

Mae’r ffigyrau hyn wedi cael eu casglu gan ddefnyddio nifer o ffynonellau, gan gynnwys Halifax a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.