Mae Waitrose yn ymddiheuro am osod arwyddion uniaith Saesneg yn eu harchfarchnad ym Môn, ac yn addo mynd ati ar frys i’w newid.

Ar un adeg roedd yna arwyddion dwyieithog yn ei siop ym Mhorthaethwy, ond yn ddiweddar cafodd y rhain eu tynnu ei lawr i wneud lle ar gyfer arwyddion Saesneg.

Fel yr adroddodd y wefan hon ddoe (dydd Mercher, Medi 12) mae’r cam wedi ysgogi nifer o gwsmeriaid i droi at gyfryngau cymdeithasol er mwyn lleisio eu siom, ac mae un o’r rhain wedi galw ar eraill i gwyno.

Bellach mae’r archfarchnad wedi ymateb, gan addo mynd i’r afael â’r mater.

“Rydym yn ymddiheuro’n fawr am y ffaith bod ein harwyddion Cymraeg wedi cael eu tynnu i lawr,” meddai llefarydd ar ran Waitrose wrth golwg360. “Byddwn yn newid hyn cyn gynted ag y gallwn.”