Mae bachgen wedi marw ar ôl i’r heddlu gael eu galw i Ysgol Uwchradd St John Lloyd yn Llanelli.

Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dydi ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, a does dim angen i rieni eraill ofidio am les eu plant, meddai’r heddlu.

Mae’r ysgol Gatholig yn cydweithio â’r awdurdod lleol, yr esgobaeth a’r heddlu er mwyn cefnogi’r disgyblion a’r staff.