Mae’r newyddiadurwraig Nia Medi a’r actores Carys Eleri wedi dechrau eu taith feics o Lundain i Paris.

Mae’r chwiorydd eisoes wedi codi bron i £6,000 at elusen niwronau motor er cof am eu tad, David, a fu farw fis diwethaf, ar ôl cael diagnosis ym mis Ionawr.

Bydd y daith yn cymryd pedwar diwrnod, wrth iddyn nhw reidio mwy na 500km.

Beth yw’r cyflwr?

Cyflwr niwrolegol prin yw Niwronau Motor sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r nerfau ac sy’n achosi gwendid sy’n gwaethygu dros gyfnod o amser lle mae’r cyhyrau’n diflannu. Does dim gwellhad o’r cyflwr ar hyn o bryd.

Ar y tudalen codi arian JustGiving, dywed y ddwy chwaer iddyn nhw gael “sioc anferth” pan gafodd eu tad ddiagnosis, “am fod dad wastad wedi bod yn ddyn ffit ac iach”, ac yntau’n gyn-athro ymarfer corff.

“Roedd mewn cadair olwyn gyda braidd dim defnydd o’i goesau a hynny ond pedwar mis ar ôl cael y symptomau cyntaf.

“Bach iawn sy’n cael ei adnabod am y cyflwr a pham ei fod yn digwydd i rai pobl. Ac er bod ambell berson byd enwog wedi bod gyda Motor Neuron, parhau y mae’r diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â’r cyflwr a hynny am ei fod mor brin, ac mae hyn yn effeithio ar y lefel o ymchwil sy’n cael ei wneud i’r mater.”

Y daith

Cafodd y daith ei threfnu pan oedd eu tad yn sâl ac yn sgil ei golli, mae Nia a Carys yn parhau er cof amdano, a Nia wedi cael ei phen-blwydd yn 40 oed ddydd Llun.

“Mae wedi cael effaith ddwys ar ein teulu ac wedi newid ein bywydau yn llwyr,” meddai’r ddwy.

“Drwy gydol ein bywydau r’yn ni wedi – ac yn parhau – i fod mor lwcus o gael tad mor ffyddlon, caredig a chariadus.

“Ein tro ni yw hi nawr i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i ymladd y cyflwr ac i roi gobaith i bobl eraill ar draws y byd sydd hefyd ar y daith anodd yma.”