Mae cyn-arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Caroline Jones, wedi gadael y blaid.

Fe fydd yn dychwelyd i’r Senedd ym Mae Caerdydd wedi gwyliau’r haf yn aelod annibynnol, ac yn sgil ei hymadawiad fydd dim ond pedwar Aelod Cynulliad gan UKIP yn y Cynulliad.

Yn ôl adroddiadau, fe adawodd Caroline Jonea oherwydd ei bod yn anhapus â Gerard Batten, arweinydd Prydeinig y blaid, a’r ffaith bod y blaid yn gogwyddo ymhellach i’r dde.

Mae Gerard Batten, y pedwerydd arweinydd UKIP ers y refferendwm Brexit, yn wfftio sylwadau Caroline Jones.

Pleidleisio

Daeth Caroline Jones yn arweinydd ar grŵp Cynulliad UKIP ym mis Mai wedi i’r Aelodau Cynulliad David Rowlands a Michelle Brown ochri â hi mewn pleidlais.

Ond, dros yr haf, cafodd aelodau UKIP Cymru’r cyfle i daro pleidlais am arweinydd, a chafodd Gareth Bennett ei benodi.