Mae cyffur newydd yn cael ei dreialu yng Nghaerdydd, yn y gobaith y bydd yn arwain at allu trin Diabetes Teip 1 am y tro cyntaf erioed.

Mae meddygon yn gobeithio y bydd y cyffur yn arwain at ail-dyfu y celloedd yn y corff sy’n cynhyrchu insiwlin.

Mae’r sefydliad ymchwil clinigol o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi rhoi’r cyffur i ddau glaf – y ddau gyntaf yn y byd i fod yn rhan o’r arbrawf byd-eang.

Mae pobol ddiabetig Teip 1 fel arfer yn wynebu oes gyfan o chwistrellu insiwlin i’w cyrff, gan nad yw eu pancreas yn gallu cynhyrchu digon o’r hormon yn naturiol.

Ond mae’r cyffur sy’n cael ei ddatblygu yn ardal Caerdydd yn ceisio ail-greu y celloedd coll fel bod cyrff dioddefwyr yn gallu rheoli lefelau glwcos eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae’r bwrdd iechyd yn dweud nad oes unrhyw sgil-effeithiau i gymryd y cyffur hwn – hyd yma. Ond mae hi’n llawer rhy gynnar i ddweud os yw’r treial yn llwyddiant ai peidio. Maen nhw’n chwilio am wyth o bobol eraill i gymryd rhan yn y treial.