Mae Senedd Ewrop wedi cymeradwyo adroddiad sy’n galw am bontio’r bwlch rhwng ieithoedd Ewropeaidd yn y byd digidol.

Mae’r adroddiad gan yr Aelod Seneddol Ewropeaidd o Gymru, Jill Evans, yn ystyried y defnydd o ieithoedd mewn technoleg ddigidol.

Mae’n nodi bod nifer o ieithoedd bychain, fel y Gymraeg, yn cael eu hanwybyddu neu’u gwthio i’r cyrion ar-lein, gan fod ieithoedd mwy eu maint yn dominyddu.

“Cyfle enfawr”   

“Mae’n rhaid i ddinasyddion Ewropeaidd allu manteisio ar y byd digidol a chael mynediad iddo yn iaith eu hunain, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifol,” meddai Jill Evans.

“Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad ac arweinyddiaeth ar lefel yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae hwn yn gyfle enfawr i’r Undeb Ewropeaidd ddangos ymrwymiad go iawn i gydraddoldeb iaith, i siaradwyr holl ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg.

“Mae fy adroddiad yn galw am gyfres o fesurau a fydd yn mynd ymhell tuag gyflawni hynny.”

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn galw ar yr Undeb Ewropeaidd:

  • i wella’r fframweithiau sefydliadol ar gyfer polisïau technoleg iaith;
  • i greu polisïau ymchwil newydd i gynyddu’r defnydd o dechnoleg iaith yn Ewrop;
  • i ddefnyddio polisïau addysg er mwyn sicrhau dyfodol cydraddoldeb ieithyddol yn yr oes ddigidol;
  • i gynyddu’r gefnogaeth i gwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus i wneud gwell ddefnydd o dechnolegau iaith.

Cafodd yr adroddiad ei dderbyn gyda chefnogaeth 592 o aelodau seneddol Ewropeaidd, gyda 45 yn gwrthwynebu a 44 yn atal eu pleidlais.